Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 25 Mehefin 2018
Amser:
13.04 -
16.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4750
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Lee Waters AC Mike Hedges AC (yn lle Rhianon Passmore AC) |
Tystion: |
Tracey Burke, Llywodraeth Cymru Steve Davies, Llywodraeth Cymru Melanie Godfrey, Llywodraeth Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas CBE - Archwilydd Cyffredinol Cymru Mark Jeffs Nick Selwyn |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) |
1.1. Trafododd yr Aelodau y materion allweddol a'r argymhellion drafft a nodwyd y trefnir i'r adroddiad drafft gael ei drafod yn y Pwyllgor ar 9 Gorffennaf.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Roedd Mike Hedges AC yn bresennol fel dirprwy.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Rhoddwyd tystiolaeth i'r Aelodau gan Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus; Steve Davies, Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Addysg; a Melanie Godfrey, Dirprwy Gyfarwyddwr Busnes Addysg a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.
4.2 Cytunodd Tracey Burke i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor.
4.3 Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn amlinellu ei ganfyddiadau.
5.1 Rhoddwyd tystiolaeth i'r Aelodau gan Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus; John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio; ac Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai Llywodraeth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i addasiadau tai.
5.2 Cytunodd Tracey Burke i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor.
5.3 Cytunodd y Pwyllgor i roi adroddiad ar ei ganfyddiadau i Lywodraeth Cymru cyn Toriad yr Haf.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.